Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby
Mae swyddog oedd yn cofnodi manylion yn ystod ymarferiad milwrol, ble bu tri pherson farw, wedi gwadu cam-gofnodi’r hyn ddigwyddodd.
Bu farw tri milwr wrth gefn – Edward Maher, Craig Roberts o Fae Penrhyn a James Dunsby – ym mis Gorffennaf 2013 yn ystod ymarferiad SAS ym Mannau Brycheiniog mewn tywydd crasboeth.
Roedd un o filwyr Corfflu Brenhinol y Signalau, sy’n cael ei gyfeirio ato fel 1C, yn dilyn y milwyr gyda GPS wrth iddyn nhw wneud taith gerdded 16 milltir ar hyd y mynyddoedd, ond fe fethodd a sylwi bod Edward Maher wedi stopio symud am ddwy awr.
Dywedodd 1C wrth y cwest ei fod yn ceisio cadw llygad ar hyd at 78 o filwyr ar yr un pryd, ac nad oedd wedi meddwl bod “unrhyw risg” i’r milwr oedd wedi stopio symud.
Gwadu newid manylion
Mae’r swyddog oedd yn gyfrifol am fonitro symudiadau’r milwyr ar y GPS wedi gwadu newid manylion y cofnod o’r ymarferiad wedi iddyn nhw orffen.
Fe glywodd y cwest nad oedd yr heddlu na’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi gweld y cofnodion, ac yn ôl milwr 1C roedden nhw wedi cael eu cadw o dan glo gan yr uwch-swyddogion.
Mynnodd 1C hefyd nad oedd wedi newid yr amser a gofnodwyd ynglŷn â phryd y cafodd galwad brys 999 ei wneud.
Wrth esbonio pam nad oedd wedi sylwi bod Edward Maher wedi stopio symud rhwng 2.16yp a 4.40yp, dywedodd y milwr bod grŵp arall o filwyr ar yr ymarfer wedi tynnu ei sylw.
“Alla’i ddim canolbwyntio ar un milwr achos fe fydden i’n colli ymwybyddiaeth o bawb arall,” meddai 1C wrth y cwest.
“Roedd e [Maher] yn symud ar gyflymder da i lawr y mynydd felly doedd gen i ddim pryder fod unrhyw risg iddo.”
Mae’r cwest yn Solihull yn parhau.