Mae Aberdâr, Castell-nedd a Merthyr Tudful yn rhai o’r llefydd rhataf ym Mhrydain i brynu tŷ yn ôl ymchwil diweddar.

Am bob metr sgwâr o eiddo, byddai rhywun yn talu ychydig dros £1,200 yng Nghymru a £2,000 ar gyfartaledd yng ngweddill Prydain.

Ond yn Aberdâr, mae pob metr sgwâr o dy yn costio £910 – o’i gymharu ag ardaloedd drytaf Prydain, yn Kensington a Chelsea yn Llundain, lle mae’n costio £11,600 am bob m2.

Byddai perchennog tŷ ym Merthyr Tudful yn talu £967 a Chastell-nedd yn talu £1,005 bob m2.

Datgelodd ymchwil Halifax bod Aberdâr, Castell-nedd a Merthyr ymysg y 10 lle rhataf i brynu tŷ ym Mhrydain – sydd hefyd yn cynnwys pedair tref yn yr Alban, Blackpool ac Accrington yn Swydd Gaerhirfryn a Scunthorpe yng ngogledd Swydd Lincoln.

Mae Halifax wedi prisio m2 mewn tai am ei fod yn “gymorth i fesur gwerth am arian gyda thai o wahanol feintiau”, meddai’r cyfarwyddwr morgeisio Craig McKinlay.