Traffordd yr M4
Mae Plaid Cymru wedi honni y byddai cynllun i wella’r M4 dan eu harweiniad nhw yn “rhatach, cyflymach a gwell” na’r hyn sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Yn sgil  cyhoeddiad y gweinidog sy’n gyfrifol am y cynllun, Edwina Hart, ddydd Gwener na fydd hi’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016, mae pryderon wedi codi y bydd y cynllun gwerth £1 biliwn yn “colli momentwm”.

Mae Edwina Hart wedi gwadu hynny gan ddweud y bydd y cynlluniau’n cael eu gwireddu. Roedd hi’n ymateb i bryderon gafodd eu mynegi gan y CBI heddiw.

Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus sy’n edrych ar y cynigion ar gyfer ffordd osgoi’r M4 gychwyn yn 2016 ac y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn 2020.

‘Dewisiadau gwell’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi Rhun ap Iorwerth y byddai ei blaid mewn llywodraeth yn ystyried pob dewis sydd ar gael i liniaru tagfeydd ar yr M4, gan fod dewisiadau gwell na chynllun y Llywodraeth.

“Mae’r M4 o gwmpas Casnewydd yn achos pryder enbyd. Mae’r tagfeydd traffig sy’n digwydd yno bob dydd yn boendod beunyddiol i yrwyr, ac yn achosi trafferth i berchenogion busnes,” meddai.

“Ond does dim rhaid afradu £1 biliwn arni pan fo dewisiadau gwell ar gael.

“Gallai’r cynlluniau sy’n cael eu ffafrio gan Blaid Cymru gael eu cyflwyno ynghynt na chynnig y llywodraeth, a byddent yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn gwella’r seilwaith mewn rhannau eraill o Gymru, fel yr A55 a chludiant cyhoeddus.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: Rydym wedi cyhoeddi llwybr newydd i’r prosiect sydd, yn ein tyb ni, yr ateb gorau i broblemau traffig yn ardal Casnewydd ac yn hanfodol bwysig i dwf economaidd Cymru. Nid yw ein barn wedi newid.”