Ysbyty Jinnah yn Karachi
Mae mwy na 400 o bobol wedi marw mewn gwres llethol yn ninas Karachi, Pacistan, yn ystod y tridiau diwetha’, gyda’r gwres yn codi i 45C (113F).

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Iechyd Karachi, Zafar Ejaz, fod o leia’ 413 o bobol wedi marw hyd yn hyn.

Yn ôl llefarydd ar ran Ysbyty Jinnah yn y ddinas, mae cannoedd mwy yn cael eu trin am broblemau’n ymwneud â gwres ac mae marwdai’r ddinas yn llenwi’n gyflym.

Dywedodd y llefarydd mai pobol hŷn yw mwyafrif y rhai sy’n marw.

Cau ysgolion

Mae Prif Weinidog y dalaith, Qaim Ali Shah, wedi penderfynu cau ysgolion a swyddfeydd cyhoeddus nes i’r gwres mawr ddod i ben.

Yn ôl proffwydi tywydd, mae disgwyl glaw o fewn yr ychydig ddyddiau nesa’.