Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Eurgain Haf, Uwch Reolwr y Wasg a’r Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru, sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. 

Mae Eurgain yn dod o Benisarwaun yn Eryri yn wreiddiol ond bellach yn byw ym Mhontypridd efo’i gŵr a dau o blant. Fe enillodd hi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni ac mae hi hefyd wedi cyhoeddi deuddeg o lyfrau ar gyfer plant…


A minnau wedi fy magu mewn ardal chwarelyddol, roedd Mam yn coginio sawl pryd ‘swper chwarel’, yn deillio o’i magwraeth hitha’. Prydau fel lobsgóws (efo cig eidion), tatws pum munud wedi ei wneud hefo tatws, nionyn a bacwn; sŵp pys a shancan ham a stwnsh rwdan efo tshiopan borc. Mae gen i atgofion hefyd o ‘hel tai’ pan fyddwn yn mynd i aros efo Anti Lydia yn Rhiwlas a mynd am ‘banad unarddeg’ at Anti Cadi ac Anti Margiad a chael dewis o darten wy, Fictoria sbynj neu deisen blât afal neu fwyar duon – y cyfan â blas-mwy!

Roedd Mam yn daer ein bod ni fel teulu i gyd yn eistedd wrth y bwrdd i gael swper hefo’n gilydd, ac mi rydw inna’n arddel hynny. Mae’n gyfle i ni gael sgwrs a dal i fyny ar brofiadau’r dydd. Ac er nad ydw i dal wedi llwyddo i feistroli’r tric o gael pawb i fwyta’r un peth (dwi’n cofio’r ymwelydd iechyd yn dweud wrtha i fod yn rhaid i fabis drio rhywbeth 17 gwaith cyn iddyn nhw allu eu hoffi – a dwi’n meddwl i mi roi’r ffidil yn y tro ar ôl rhyw deirgwaith!), mae pawb yn cael amrywiad o un cynhwysyn, boed hynny yn risoto hadog melyn neu fysedd pysgod! Y peth pwysig i mi ydi ein bod ni’n eistedd lawr ar yr un pryd. Mae’r teulu i gyd fodd bynnag yn hoff o lobsgóws, efo bara ffres a chaws, ac mi rydan ni’n cael y pryd yma o leia’ unwaith yr wythnos dros fisoedd y gaea’.

Powlen o lobsgóws (efo cig eidion), bara a chaws

Dw i’n un sy’n tueddu i golli fy archwaeth bwyd os bydda i’n teimlo’n orbryderus neu’n ddigalon. Cwmnïaeth a sgwrs fydda i’n ei grefu yn fwy na dim yn ystod yr adegau hynny a does dim yn well gen i na mynd am baned o goffi (a hwnnw yn goffi da) efo ffrind i gael sgwrs rhoi’r-byd-yn-ei le yn rhywle fel caffi Canolfan Arddio Fron Goch ger Caernarfon. Mae fy ngŵr hefyd yn giamstar ar wneud risotos a paella blasus iawn ac wedi prysurdeb wythnos o waith a gweithgareddau’r plant, mae’n gysur cael mwynhau pryd a sgwrs hefo’n gilydd ar nos Sadwrn dros bryd a photel o win da!

Mae’n anodd imi roi fy mys ar y pryd gorau erioed i mi ei brofi ond mi fyddaf bob tro yn cael gwefr wrth brofi’r bwyd Tsieineaidd a Choreaidd ym mwyty arobryn Janet’s ym Mhontypridd. Mae’n le poblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn dod o bob cwr a fy hoff bryd i yw’r bibimbap sydd wedi ei wneud gyda chig eidion Cymreig ac wy wedi ffrio gyda melynwy dyfrllyd yn goron ar ei ben. Dw i hefyd yn hoff iawn o fwyd môr ac yn chwilio am gyfleoedd i fwynhau bwyd lleol pan ar ein gwyliau teuluol blynyddol yn Sir Benfro. Mae’r platiad o gimwch ffres a gefais mewn tafarn forwrol ym Mhwll Gwaelod yn dal i aros yn y cof a bob blwyddyn byddaf yn edrych ymlaen at gael brechdan granc ffres ym mae bychan Cwm Gwaun.

Brechdan granc yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro

Mae’n rhyfedd fel mae blas atgofion mewn bwyd ac mae salad cream yn mynd â fi yn ôl i ddiwrnod chwilboeth o haf yn nechrau’r wythdegau pan aeth fy ffrind a minnau ar antur i chwilio am Ffynnon Cegin Arthur ynghanol y goedwig ym mhlwyf Llanddeiniolen. Dwi’n cofio ni’n stopio i eistedd ar bompren fach a bodiau’n traed yn trochi yn y nant a bwyta’r brechdanau ham a salad roedd Mam fy ffrind wedi paratoi ar gyfer ein picnic. Dyma’r tro cyntaf i mi brofi’r saws chwerw-felys, a dw i wrth fy modd hefo fo hyd heddiw! Mae bwyd hefyd yn dod ag atgofion o wahanol deithiau neu wyliau ac ymysg fy ffefrynnau mae uwd amheuthun a flasais yn Wanaka yn Seland Newydd ar ein taith o’r wlad yn ystod haf 2005. Roedd wedi ei wneud o geirch, ffrwythau, cnau a hufen dwbl! Bob gaeaf hefyd mae arogleuon y gwin sbeis cynnes yn ardal Yr Ais, Caerdydd yn fy atgoffa o’n mis mêl yn Fienna yn 2001. Roeddem yno dros gyfnod y flwyddyn newydd ac roedd yno stondinau yn gweini gwin cynnes a siopau yn gwerthu cimwch a siampên wrth i ni gerdded ar hyd y strydoedd a’r eira yn syrthio o’n cwmpas – profiad hollol hudolus!

Salad Cream

Er bod gen i lond drôr o lyfrau ryseitiau yn hel llwch, dw i’n tueddu i fod yn rhywun ffwrdd-â-hi sy’n hapus i daflu pethau at ei gilydd a gobeithio am y gorau. A hyd yma mae’r canlyniadau wedi bod yn fwytadwy o leia’!  Mae gen i gymaint o atgofion hapus o goginio hefo’r plant dros y cyfnod clo ac yn ddiweddar fe wnes i a Lois fy merch greu jam mwyar duon wedi eu casglu o gomin Pontypridd.