Senedd Gwlad Groeg
Cynyddu mae’r pryderon na fydd Gwlad Groeg yn medru osgoi methdalu, wrth i weinidogion cyllid parth yr ewro baratoi at gyfarfod i drafod sefyllfa ariannol y wlad.

Byddai Gwlad Groeg mewn diffyg i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol os nad oes cytundeb i dalu dyled gwerth £1.1 biliwn yn cael ei gyrraedd erbyn 30 Mehefin, ac mae swyddogion wedi dechrau trafod y posibilrwydd o adael yr ewro, yn ôl arbenigwyr.

Dywedodd uwch-swyddog ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Pierre Moscovici, yn Lwcsembwrg bod y “risg yn uchel i bobol Gwlad Groeg ac Ewrop gyfan.”

Mae Llywodraeth newydd asgell chwith y wlad wedi bod mewn trafodaethau gyda’i harianwyr ers dod i rym ym mis Ionawr, er mwyn ceisio cael £5.2 biliwn o gyllid i dalu sawl dyled.

Ers y chwalfa ariannol yn 2009, mae economi Gwlad Groeg wedi lleihau o chwarter ac mae diweithdra a thlodi wedi cynyddu’n sylweddol.

Rwsia

Wrth i weinidogion cyllid Ewropeaidd baratoi at gyfarfod, mae Prif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, wedi teithio i Rwsia – gan arwain at ddyfalu bod Gwlad Groeg am geisio gofyn am fenthyciad gan y wlad.

Mae’r gwledydd wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn ag unrhyw fenthyciadau ar hyn o bryd.