Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i deulu o Brydain gael eu targedu gan dri o bobl a oedd, yn ôl adroddiadau, wedi ceisio cipio tri o blant o westy yn Cyprus.

Fe ddywedodd y cwmni gwyliau Thomas Cook eu bod yn gweithio’n agos  gyda’r awdurdodau yn dilyn y digwyddiad ar Fehefin 16 yng ngwesty lan môr  Anastasia yn Protaras.

Dywedodd y Swyddfa Dramor fod y digwyddiad yn un “pryderus”, ac maen nhw wedi cadarnhau eu bod wedi rhoi cymorth i deulu o Brydain.

Ond mae’r awdurdodau yn Cyprus yn gwadu bod unrhyw ymgais wedi bod i gipio plant.

Dywed yr heddlu lleol bod dyn 19 oed wedi cael ei holi gan yr heddlu a’i ryddhau ar ôl i dwristiaid adrodd  eu bod wedi gweld dyn yn ffilmio plant ifanc gyda’i ffôn symudol.

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw beth amheus ar ei ffôn nac yn ei gartref, meddai’r heddlu.

‘Car yn disgwyl amdanyn nhw’

Fe ddywedodd Greg Letford, 28, o Dundee, a oedd yn aros yn y gwesty fel rhan o barti priodas, fod cwpl wedi arwain dau o blant ifanc i gar oedd yn disgwyl amdanyn nhw, gyda pherson arall yng ngofal trydydd plentyn yn barod i fynd hefyd.

Yn ôl Greg Letford: “Roedd rhywun wedi gweld hyn ac wedi eu stopio cyn iddyn nhw ddianc.”

Cafodd yr heddlu eu galw gan arwain y cwpl i swyddfa yn y gwesty, a’u hebrwng wedyn i fan oedd yn disgwyl amdanyn nhw, meddai.

Dywedodd  wrth bapur newydd y Daily Record bod y plant o dan 10 mlwydd oed ac roedd y ddau berson sy’n cael eu hamau o’u cipio wedi gwisgo fel aelodau o’r staff.

‘Diogelwch yn flaenoriaeth’

Dywedodd llefarydd ar ran Thomas Cook: “Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid yn flaenoriaeth ac wrth glywed am y digwyddiad hwn, rydym wedi anfon ein tîm profiadol i’r safle i roi cymorth i’r unigolion.

“Roedd cwsmeriaid sydd ddim yn dymuno aros yn y gwesty wedi’u symud yn syth i westy arall.”

Ychwanegodd: “Er bod digwyddiadau o’r natur yma yn hynod o brin, hoffem sicrhau ein holl gwsmeriaid fod y mater yn cael ei drin yn ddifrifol tu hwnt. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol a’r gwesty, wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Mae unrhyw gwsmeriaid sy’n bryderus am wyliau sydd wedi eu trefnu yn cael eu cynghori i gysylltu gyda ni er mwyn inni ddelio gyda hwy yn bersonol ac yn uniongyrchol.”

Cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Mae ein swyddogion consylaidd yn darparu cyngor a chefnogaeth i’r teulu hwn yn dilyn y digwyddiad. Mae’n fater i’r heddlu lleol sy’n parhau gyda’u hymholiadau.”

Mae’r ganolfan wyliau Anastasia wedi’i lleoli ym mhendraw dwyreiniol ynys Cyprus, ac mae’r cwmni gwyliau Thomas Cook yn disgrifio’r lleoliad fel “dewis perffaith i’r teulu.”