Yr hanesydd Hywel Williams Llun: S4C
Mae’r syniad o fodolaeth cymuned Gymreig yn un “mytholegol” a “ffals”, yn ôl hanesydd ac awdur sydd yn edrych ar Gymreictod mewn rhaglen deledu newydd.

Fe fydd Hywel Williams yn cwestiynu gwerthoedd cymunedol Cymru ac yn ceisio dymchwel canfyddiadau traddodiadol y Cymry am eu cymdeithas, mewn rhaglen yr wythnos nesaf ar S4C.

Fe fydd yr hanesydd yn herio rhai hanfodion tybiedig o’r gymuned Gymreig ac yn dadlau nad oes modd ceisio ffitio’r genedl mewn i un ddelwedd gymunedol.

“Rhywbeth mytholegol yw’r holl syniad yma o gymuned Gymreig. Mae’n ddarn o chwedloniaeth sy’n hunanddinistriol ac yn fabanaidd,” meddai Hywel Williams, sy’n wreiddiol o Landeilo ond bellach yn byw yn Llundain.

Beio sefydliadau a’r Eisteddfod

Yn ystod y rhaglen mae’r hanesydd yn gofyn i ba raddau y mae’r Cymry’n delfrydu’r gymdeithas Gymreig, gan awgrymu y dylai fod yn fwy aeddfed fel cenedl ar ôl mileniwm a hanner o fod yn Gymry a rhyddhau ein hunain o ‘garchar’ cymuned.

Yn ôl Hywel Williams, mae’r traddodiad sosialaidd a ddechreuodd yn y 19eg ganrif a sefydliadau Cymreig fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal y fytholeg honno.

“Mae’n ddigon hawdd gweld bod y ddelwedd gymunedol yma’n ffals. Nid yw’n adlewyrchu’r gwirionedd am Gymru naill ai yn y Cymoedd neu yng nghefn gwlad,” meddai’r hanesydd.

“Ond mae’r ddelwedd o’r gymuned fel y ffordd Gymreig o fyw wedi bod yn eithriadol o bwerus fel syniad a dyna ydy’r ffalsrwydd a’r rhagrith.

“Mae’n osgoi gwirionedd trasiedïau economaidd a chymdeithasol Cymru ac yn eu celu o dan yr eicon cyfleus hwnnw, ‘y ffordd Gymreig o fyw’. Os meddyliwch chi am y peth yn ofalus, nonsens yw priodoli un proffil seicolegol i genedl gyfan.”

‘Dal Cymru yn ôl

Yn ôl Hywel Williams, mae twyll ‘cymuned’ yn dal Cymru yn ôl yn gymdeithasol ac yn economaidd.

“Cyntefig, cyn-fodern a gwrth-ddeallusol – mae’r meddylfryd cymunedol yn fabanaidd,” ychwanegodd yr hanesydd.

“Mae’n ffordd o ddweud bod modd osgoi problemau a chyfleoedd ac aeddfedrwydd am byth.

“Mae’r ‘cymunedwyr’ am gadw Cymru oll mewn pram ac felly’n ddibynnol ar arweinyddiaeth yr elite diwylliannol am waredigaeth a chynhaliaeth.”

Fe fydd Cymuned gan Hywel Williams yn cael ei darlledu nos Fawrth 23 Mehefin am 9.30yh ar S4C.