Y Goron sydd wedi'i llunio gan John Price
Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015, sydd wedi’i hysbrydoli gan daith y Cymry cyntaf i Batagonia, wedi cael ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod heno.

Y gof arian John Price sydd wedi’i llunio ac fe fydd yn cael ei rhoi i’r bardd buddugol am gasgliad o gerddi digynghanedd, ynghyd a gwobr ariannol er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre’r Aran, Llanuwchllyn.

Fe ofynnod yr Eisteddfod i John Price gyfleu’r berthynas agos sy’n bodoli rhwng y Cymry a’u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.

Yn ei chanol, gwelir carreg a godwyd o draeth Porth Madryn, lle glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865, ac o boptu’r garreg gwelir hwyliau llong y Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith.

Ar y cylchyn hefyd gwelir symbol o afon Camwy ym Mhatagonia a blodau y Celyn Bach (neu’r Quilimbay, sef y fersiwn frodorol o’r enw Cymraeg).

Cysylltiad

“Mae’n bleser derbyn y Goron hardd yma heno, a diolch yn fawr i Gymdeithas Cymru-Ariannin a theulu’r diweddar Aur ac Arwyn Roberts am eu haelioni,” meddai Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.

“Mae eleni’n flwyddyn eithriadol o bwysig i’r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia, a braf yw gallu nodi’r cysylltiad hwn mewn ffordd mor hardd, drwy gyplysu’r ddwy wlad ynghyd drwy waith celfydd John Price.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau ym Meifod o 1-8 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.