Chris Evans
Ar ôl misoedd o ddyfalu fe gyhoeddwyd mai’r DJ Chris Evans fydd yn olynu Jeremy Clarkson fel cyflwynydd newydd Top Gear.
Mae ’na ddyfalu bellach ynglŷn â phwy fydd yn cyd-gyflwyno gyda Chris Evans ar ôl i’r BBC gadarnhau am y tro cyntaf na fydd Richard Hammond a James May yn dychwelyd i’r sioe.
Y ffefrynnau yw’r cyflwynydd teledu Jodie Kidd a’r cyflwynydd radio a theledu Dermot O’Leary, yn ôl y bwcis Ladbrokes.
Dywedodd y BBC neithiwr bod Chris Evans wedi arwyddo cytundeb tair blynedd i gyflwyno’r sioe ar BBC 2.
Cafodd Clarkson ei ddiswyddo yn dilyn ffrwgwd gydag un o gynhyrchwyr y sioe yn gynharach eleni.
Dywedodd Chris Evans ei fod wrth ei fodd.