Mae trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn bwriadu ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May i alw arni i ymyrryd yn dilyn problem gyda fisas oherwydd camgymeriad a wnaed gan y Swyddfa Gartref.

Mae fisas wedi cael eu gwrthod i rai cystadleuwyr o Affrica ac Asia sy’n golygu na fyddan nhw’n gallu cystadlu yn yr Eisteddfod fis nesaf oni bai bod Theresa May yn gallu datrys y broblem.

Mae’r broblem wedi codi am fod yr Eisteddfod Ryngwladol wedi cael ei gadael oddi ar restr, sy’n caniatáu fisas ar gyfer ymwelwyr i 44 o wyliau, drwy gamgymeriad.

Mae’n  golygu y bydd yn cymryd rhagor o amser i’w prosesu ac mewn rhai achosion, mae’r awdurdodau mewn rhai gwledydd wedi gwrthod caniatáu fisas.

Mae Aelod Seneddol De Clwyd Susan Elan Jones wedi dweud bod yn rhaid i’r Swyddfa Gartref unioni’r cam.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymddiheuro am y camgymeriad wrth swyddogion yr Eisteddfod gan ddweud mai camgymeriad gweinyddol oedd ar fai pan ddaeth rheolau newydd i rym ym mis Chwefror.

Yn y cyfamser mae tua 100 o ddawnswyr a cherddorion o India, Moroco, Ghana a Nepal yn aros i glywed a fyddan nhw’n cael fisas mewn pryd i deithio i Langollen.