Mae gwleidyddion, arweinwyr milwrol ac enwogion o bob cwr o’r Unol Daleithiau wedi ymgynnull yn nhalaith Delaware ar gyfer angladd Beau Biden.
Bu farw cyn-Dwrnai Cyffredinol Delaware, sy’n fab i Ddirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, o ganser yr ymennydd yn 46 oed yr wythnos diwethaf.
Yn ystod y gwasanaeth, dywedodd yr Arlywydd Barack Obama fod Biden yn “fab anhunanol”.
“Fe wnaeth e, mewn 46 o flynyddoedd, yr hyn na allai’r rhan fwyaf ohonom ei wneud mewn 146 o flynyddoedd.”
Roedd mwy na 1,000 o bobol yn y gwasanaeth mewn eglwys Gatholig yn Wilmington, gan gynnwys Hillary a Bill Clinton.
Daw’r drasiedi ddiweddaraf i Joe Biden bedwar degawd wedi iddo golli ei wraig a’i ferch fach mewn damwain car.
Canodd prif leisydd Coldplay, Chris Martin, yn ystod y gwasanaeth a hynny wedi iddo ofyn cael bod yn bresennol am fod Beau Biden wedi bod yn ffan ers nifer o flynyddoedd.