Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio wedi i ddyn gael ei daro gan gar a’i adael ar ymyl y ffordd yn Swydd Stafford.

Cafodd ail ddyn ei anafu yn y digwyddiad yn Newcastle-under-Lyme am 10.15 neithiwr.

Bu farw dyn yn ei 30au yn y fan a’r lle, a chafodd y dyn arall ei gludo i’r ysbyty yn Stoke.

Mae Heddlu Swydd Stafford wedi apelio am wybodaeth.

Roedd gyrrwr y car wedi ffoi cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd, ond fe gafodd ei ddarganfod gan yr heddlu’n ddiweddarach a’i arestio fel rhan o’r ymchwiliad.