Timau achub yn achub un o'r teithwyr oedd ar fwrdd y llong bleser yn Afon Yangtze
Mae o leiaf pump o bobl wedi marw ac mae cannoedd ar goll wedi i long bleser oedd yn cludo 458 o bobl droi drosodd ar yr Afon Yangtze yn Tsieina.

Cafodd chwech o bobl eu hachub ar ôl i dimau achub eu clywed yn gweiddi am help y tu mewn i’r llong,  Eastern Star, wnaeth droi drosodd mewn storm dros nos.

Mae o leiaf 12 o bobl eraill wedi cael eu hachub, gan gynnwys y capten a’r prif beiriannydd, ar ôl y ddamwain a ddigwyddodd yn ystod mordaith o Nanjing i ddinas Chongqing.

Mae’r llong ar hyn o bryd yn arnofio ar ei phen i lawr yng nghanol yr afon.

Roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dwristiaid rhwng 50 ac 80 mlwydd oed.

Bu mwy na 50 o fadau achub a chychod a 3,000 o bobl yn rhan o’r chwilio yn dilyn y ddamwain.