Mae gwasanaethau trên rhwng Machynlleth a’r Drenewydd wedi cael eu canslo heddiw oherwydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion dros nos.

Ar hyd y lled Cymru, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i sawl digwyddiad dros nos.

Mae llifogydd yn golygu nad yw’r trenau yn gallu rhedeg rhwng Machynlleth a’r Drenewydd heddiw gyda bysus yn rhedeg yn eu lle. Mae disgwyl i’r trenau ail-ddechrau tua 3yp prynhawn heddiw.

Yn Abertawe neithiwr, cwympodd coeden ar gar yn ardal Mount Pleasant tra bod adroddiadau o lifogydd ar y ffyrdd yn Nhreorci.

Bu’r gwynt yn hyrddio ar gyflymder o 78 milltir yr awr yng Nghapel Curig, ond mae’r rhagolygon yn awgrymu ei bod hi am fod yn sychach ac yn llai gwyntog heddiw.