Eurostar
Bu’n rhaid i Eurostar ohirio rhai gwasanaethau’r bore ma ar ôl i berson gael ei daro gan drên.

Roedd y digwyddiad yn golygu nad oedd trenau yn gallu rhedeg rhwng gorsafoedd Ebbsfleet ac Ashford yng Nghaint.

Roedd rhai teithwyr yn sownd ar drenau tra bod ciwiau wedi datblygu yn St Pancras yn Llundain a Gare du Nord ym Mharis.

Mae teithwyr sy’n teithio ar wasanaethau trenau Southeastern rhwng Ebbsfleet ac Ashford wedi eu heffeithio hefyd ond mae bysus nawr yn rhedeg rhwng y ddwy orsaf.

Dywedodd Eurostar fod gwasanaethau wedi dechrau rhedeg eto o gwmpas 12:15 y prynhawn.

Wrth ymddiheuro i deithwyr, dywedodd Eurostar y byddai eu trenau heddiw yn hynod o brysur, ac mae nhw wedi cynghori teithwyr i deithio ar amser arall neu gofyn am eu harian nôl.