Mae streiciau oedd wedi cael eu cynllunio gan weithwyr Network Rail wedi cael eu gohirio am y tro ar ôl iddyn nhw gael cynnig newydd o godiad cyflog o 2% eleni.

Roedd disgwyl i aelodau o undeb yr RMT streicio am 24 awr o 5pm ddydd Iau ac am 48 awr yr wythnos ganlynol ar ôl gwrthod dau gynnig arall gan Network Rail.

Ond daeth llwyddiant ar ôl pedwar diwrnod o drafodaeth a phenderfynodd arweinwyr yr RMT fod y cynnig diweddaraf yn ddigon da i ohirio’r streiciau am y tro.

Mae’r cynnig eto i gael ei gymeradwyo gan gynrychiolwyr yr RMT fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon i benderfynu p’un ai i ganslo’r streiciau yn llwyr.

Dywedodd undeb rheilffyrdd TSSA y byddai’n ystyried y cynnig diwygiedig mewn cyfarfod o’i gynrychiolwyr ddydd Iau. Yna, mae’n debyg y bydd yn mynd i refferendwm o 3,000 o aelodau’r undeb yn Network Rail.

Mae’r newydd yn cael ei groesawu yma yng Nghymru oherwydd roedd hi’n debygol y byddai’r streic yn digwydd yr un pryd a dau gyngerdd mawr yng Nghaerdydd nos Wener pan fydd One Direction yn canu’n Stadiwm y Mileniwm a’r Manic Street Preachers yng Nghastell Caerdydd.