Y ffatri ar ol iddi ddymchwel yn Bangladesh
Mae heddlu ym Mangladesh wedi cyhuddo dwsinau o bobol o lofruddiaeth, ar ôl i do ffatri ddillad ddymchwel a lladd 1,137 o bobol yn 2013.

Mae cyhuddiadau yn erbyn 41 o bobol, gan gynnwys perchennog yr adeilad, Sohel Rana a’i rieni, a dwsinau o swyddogion llywodraeth, meddai arweinydd yr ymchwiliad.

Yn wreiddiol, roedd yr awdurdodau ym Mangladesh wedi dweud mai cyhuddiadau o ddynladdiad fyddai’n cael eu cyflwyno.

Ond fe newidiodd hynny yn sgil difrifoldeb y digwyddiad, sydd wedi’i gofnodi fel trychineb diwydiannol gwaethaf y wlad.

Fe all y difinyddion wynebu’r gosb eithaf os ydyn nhw’n eu cael yn euog.