Gweinidog Addysg, Huw Lewis
Mae cynlluniau newydd wedi’u cyhoeddi i geisio annog mwy o ddisgyblion yn ysgolion Cymru i ddilyn cyrsiau ieithoedd tramor.

Gyda chyllid gwerth £480,000 gan Lywodraeth Cymru, mae gobaith hefyd y bydd mwy o athrawon yn dewis dysgu’r pynciau.

O dan y cynllun newydd, bydd un ysgol uwchradd mewn pedwar rhanbarth yng Nghymru yn cael ei benodi fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ieithoedd Modern Tramor.

Ar ben hynny, fe fydd partneriaethau rhwng ysgolion cyfagos, canolfannau iaith a phrifysgolion yn cael eu ffurfio – gyda’r bwriad o ddatblygu “sgiliau dysgu uchel”.

Ond mae’r cynlluniau yn cael eu lansio ar ôl “degawd a hanner o laesu dwylo” gan Lywodraeth Cymru ynghylch ieithoedd tramor, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.

Consortia

Mae bwriad i ffurfio consortia o arbenigwyr addysg, fel  Estyn a’r Cyngor Prydeinig, i oruchwylio’r cynllun.

“Mae sgiliau ieithyddol yn dod yn rhai o’r sgiliau pwysicaf all berson ifanc eu datblygu er mwyn cystadlu am swyddi yn yr economi rhyngwladol,” meddai’r Gweinidog Addysg Huw Lewis.

Daw cyhoeddiad y Llywodraeth cyn i adroddiad a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Addysg y CfBT a’r British Council gael ei gyhoeddi yfory.

‘Llaesu dwylo’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r Llywodraeth am beidio â gweithredu’n gynt i fynd i’r afael a’r niferoedd isel sy’n dilyn cyrsiau ieithoedd tramor:

“Mae gweinidogion Llafur wedi llaesu dwylo am ddegawd a hanner tra bod nifer y rhai sy’n dilyn ieithoedd tramor wedi gostwng,” meddai’r AC Angela Burns.

“Mae Llafur wedi mynd ati i beidio ag annog dysgu ieithoedd tramor, wedi torri cyllid ar gyfer y Ganolfan Iaith Genedlaethol ac wedi methu a chyfalafu ar gynllun peilot llwyddiannus ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd.

“Mae dysgu ieithoedd yn hanfodol i ddyfodol yr economi yng Nghymru.”