Kizzy Crawford
Fe fydd gŵyl gerddoriaeth Gymraeg newydd yn cael ei sefydlu yn Y Barri eleni – y tro cyntaf i ŵyl Gymraeg gael ei chynnal ym Mro Morgannwg ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r ardal dair blynedd yn ôl.

Menter Bro Morgannwg sy’n trefnu Gŵyl Fach y Fro, gyda chefnogaeth Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd mynediad am ddim i’r cyhoedd yn y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar 11 Gorffennaf, a bydd y trefnwyr hefyd yn ei ddefnyddio fel platform i hybu Cymraeg yn y fro.

‘Datblygiad cyffrous’

Yn perfformio yng Ngŵyl Fach y Fro eleni mae Wonderbrass, Carwyn Ellis (prif leisydd Colorama), Kizzy Crawford, Al Lewis, ac fe fydd y noson yn gorffen gyda pharti mawr i gyfeiliant y band ffync Kookamunga.

Bydd cannoedd o blant o ysgolion Cymraeg y Sir hefyd yn camu i’r llwyfan i berfformio yn ystod y diwrnod.

“Mae’r newyddion am Gŵyl Fach y Fro 2015 yn ddatblygiad cyffrous iawn i’r ardal,” meddai’r cyflwynydd radio Bethan Elfyn.

“Mae’n wych bod cerddoriaeth Cymraeg yn cael sylw a phlatfform cwbl newydd fel hyn ym Mro Morgannwg, ac fel un sy’n byw yn y Sir bellach, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael digwyddiad o’r fath ar fy stepen drws.

“Mae’r arlwy cerddorol yn cynnwys rhai o artistiaid mwyaf blaengar y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac fe fydd eu perfformiadau’n gosod naws hyfryd i’r ŵyl unigryw hwn ar lannau Ynys y Barri.”