Tocyn i deithio ar long y Mimosa
Bydd Beibl Cymraeg a gludwyd ar long y Mimosa i Batagonia ym 1865 ymhlith y trysorau fydd i’w gweld mewn arddangosfa newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae’r Beibl ar fenthyg i’r Llyfrgell ar gyfer arddangosfa newydd o’r enw ‘Gwladfa’, sy’n cofio 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg Patagonia.

Mae llawysgrifau a gwaith celf hefyd yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa sydd wedi agor ers 23 Mai.

Ac ar 19 Mehefin bydd cyfle i’r cyhoedd ddod â deunydd am Batagonia i’r Llyfrgell – er mwyn cryfhau’r wybodaeth am y Wladfa ar wefannau Wicipedia a Chasgliad y Werin Cymru.

‘Cydio yn nychymyg y Cymry’

Dywedodd Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dr Aled Gruffydd Jones bod yr arddangosfa “wedi cydio yn nychymyg y Cymry erioed, a bydd ‘Gwladfa’ yn dod â’r hanes hynny’n fyw trwy gyfrwng dyddiaduron, lluniau, llythyrau a mwy.”