Daeth Côr Glanaethwy yn drydydd heno yn rownd derfynol y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent’.

Jules a’i chi Matisse (ynghyd â chi tair coes, Skippy) oedd yn fuddugol, tra bo’r consuriwr Jamie Raven yn ail.

Ond y côr o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy oedd y ffefrynnau cyn y noson, ac roedd y criw o 167 o gantorion wedi plesio’r beirniaid gyda pherfformiad cofiadwy ac emosiynol o ‘Haleliwia’, wedi’i threfnu gan Geraint Cynan.

Y côr, dan arweiniad Cefin Roberts, oedd yr act gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol nos Lun wedi iddyn nhw dderbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau.

Roedd y beirniaid ar eu traed ar ddiwedd perfformiad olaf y côr, ac roedden nhw’n llawn canmoliaeth.

Dywedodd Simon Cowell: “Dw i’n credu y gallen ni fod yn edrych ar enillwyr Britain’s Got Talent”.

Ychwanegodd David Walliams fod perfformiad y côr yn ei wneud yn “falch o fod yn chwarter Cymro”.

Dywedodd Amanda Holden y bydden nhw wedi bod yn “berffaith ar gyfer y Royal Variety”, a dywedodd Alesha Dixon bod eu perfformiad yn un o’r “uchafbwyntiau” ar y noson.

Ond Jules a Matisse sy’n cipio’r wobr gyntaf o £250,000 a’r cyfle i berfformio yn y Royal Variety Performance ar Dachwedd 13 yn Neuadd Albert.