Mae mudiad cerddoriaeth Trac yn “rhagfarnllyd o blaid y Gymraeg” ac nid yw’n “adlewyrchu’r genedl yn ddigonol”, yn ôl y cerddor Bernard Kilbride.

Daw sylwadau Kilbride, sy’n frawd i gyfarwyddydd Trac Danny, mewn maniffesto sy’n ffurfio rhan o ymgynghoriad ar gyfeiriad cerddoriaeth werin yng Nghymru.

Mae’r ymgynghoriad wedi’i sefydlu fel rhan o’r broses geisiadau ar gyfer nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Derbyniodd mwy na 900 o bobol wahoddiad i lunio maniffesto.

Bernard Kilbride

Yn ei ymateb, dywedodd Bernard Kilbride: “Mae’n flin gen i ddweud ond mae Cymru’n wlad sy’n bennaf yn siarad Saesneg, ac fe ddylai unrhyw fenter sy’n cael ei hariannu, yn fy marn i, adlewyrchu hynny.

“Mae Trac yn gwneud gwaith rhyfeddol, dw i’n ffan go iawn. Fodd bynnag (fwy na thebyg oherwydd arian), mae’n rhagfarnllyd o blaid yr iaith Gymraeg, ac felly nid yw’n adlewyrchu’r genedl yn ddigonol.

“Stwff gwych i’r stwff Cymraeg. Da iawn a.y.b. Ond mae hynny ynddo’i hun yn gyfyngedig – roedd yr iaith a rhan fwya’r traddodiad cerddorol bron iawn yn farw yn y gorffennol eithaf agos, a dydy’r hyn sydd wedi goroesi ddim yn nhraddodiad gwerin y dyn cyffredin – y côr pentrefol Hardy-aidd yn crwydro rhwng gwasanaethau eglwysig, ffeiriau pentref a dawnsfeydd yr haf – yn hytrach mae’n ymddangos fel rhyw fath o draddodiad ysgrifenedig glân corawl neu ffug-glasurol.”

Ychwanega y dylai’r mudiad roi mwy o bwyslais ar hyrwyddo cerddoriaeth Saesneg “gan ei bod wrth galon” Trac ac am ei bod yn “cynrychioli’r genedl gyfan”.

Ac mae gormod o bwyslais ar “sothach wedi’i yrru gan y delyn”, meddai.

Dadleua ymhellach fod traddodiad gwerin Cymru’n rhan yn unig o draddodiad ehangach sy’n cynnwys Lloegr, yr Alban ac Iwerddon.

“Dydy cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ddim yn rhywbeth ynysig. Yn hytrach, mae’n gymysgedd o draddodiadau gwerin ein cymdogion – Gwyddelig, Albanaidd, Seisnig a.y.b.”

I gloi, mae Bernard Kilbride yn cynnig pedair her i Trac:

  • Ehangwch eich gorwelion
  • Ehangwch eich cynulleidfa
  • Cynhwyswch bobol sy’n siarad Saesneg a De Cymru aml-ddiwylliannol
  • Cefnogwch unigolion byw yn hytrach na thraddodiadau marw

Anghytuno – ‘ailadrodd neges imperialaidd’

Nid pawb sy’n cytuno â sylwadau Bernard Kilbride.

Pan ofynnodd Golwg360 i’r cerddor o Abertawe, Robin Campbell am ei farn, fe ddywedodd mai ailadrodd neges imperialaidd wnaeth Bernard Kilbride.

“Dywedwyd wrth y Cymry yn 1847 fod eu hiaith yn israddol ac er mwyn dod ymlaen yn y byd, fod rhaid siarad yr iaith imperialaidd, a hynny pan oedd 90% o bobol Cymru’n siarad Cymraeg.

“Yn 2015, pan fo 19% yn siarad Cymraeg, mae’r neges yn cael ei hailadrodd yng nghyd-destun caneuon gwerin, ond y tro hwn oherwydd nad yw’r iaith yn ‘cŵl’ (ac oherwydd bod y rhan fwyaf o bobol Cymru’n siarad dim ond un iaith).

“Mae’n nawddoglyd iawn i awgrymu bod traddodiad Cymru rhywsut yn gymysgedd o draddodiadau Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

“Yn y bôn, beth sydd gyda ni yw sefyllfa wladychol. Fyddai Bernard Kilbride yn meiddio awgrymu bod unrhyw wlad arall yn y byd yn gadael ei thraddodiadau brodorol allan oherwydd bod yr iaith (sydd, wrth reswm, yn cynnwys yr hen draddodiadau) wedi cael ei disodli gan wlad bwerus?

“Mae mwy a mwy o bobol ifainc yn cydio ynddyn nhw [caneuon gwerin]. Y broblem yw nad yw’r mwyafrif o’n pobol ifainc wedi eu clywed.

“Y nod yw anelu at ddysgu’r caneuon Cymraeg i blant yn ein hysgolion cynradd ac i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n siarad Cymraeg.

Y Delyn

Wrth ymateb i sylwadau Bernard Kilbride am “sothach wedi’i yrru gan y delyn”, eglura Robin Campbell: “Roedd llawer o dafarndai o’r enw ‘The Harp’ tan yn eitha diweddar. Y rheswm yw bod y delyn yn offeryn y dyn cyffredin.

“Roedd telynwyr yn arfer trafaelu o ffair i ffair yn chwarae a’r delyn oedd yr offeryn oedd yn arfer cael ei chanu yn y dafarndai.

“Dynion gwyllt oedd rhain. Yn anffodus gaeth y delyn ei glanweithio gan ddyfodiad y capel a’r eisteddfod.

Ymateb Trac

Wrth ymateb i eiriau cryf ei frawd, dywedodd cyfarwyddydd Trac, Danny Kilbride wrth Golwg360: “Dyn ni wedi addo cyhoeddi ymatebion fel maen nhw.

“Dyn ni ddim yn cytuno nac yn anghytuno gyda nhw.

“Ceisio gwledigaeth am y ddeng mlynedd nesaf yw nod Trac ac rydyn ni wedi gwneud hyn yn yr ysbryd o fod yn agored.

“Os ’dyn ni wedi gofyn am farn, ’dyn ni jyst yn cyhoeddi’r peth fel mae e.

“Barn bersonol Bernard sydd yma – dw i ddim yn meddwl ei fod yn wrth-Gymraeg.”

Ychwanegodd Angharad Jenkins, sy’n aelod o’r band gwerin Calan ac sy’n gweithio i fudiad Trac: “Dwi’n deall pam bod y sylwadau yn rhai dadleuol, ond mae unrhyw beth sy’n ysgogi trafodaeth yn beth da.

“Hoffwn weld mwy o bobl yn ymateb i’r maniffesto. Felly os oes barn gan unrhyw un ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth werin yng Nghymru, byddwn yn falch iawn o dderbyn sylwadau.”

Gallwch ddarllen sylwadau Bernard Kilbride yn llawn yma.

Stori: Alun Rhys Chivers