Heno, bydd y gyfres ddrama newydd ‘Parch’, sydd wedi’i hysgrifennu gan Dr Fflur Dafydd, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar S4C. Bu Golwg360 yn sgwrsio â Carys Eleri, sy’n chwarae rhan y Parchedig Myfanwy Elfed.

Carys, allwch chi ddweud ychydig am gefndir y stori?

Mae rhywun yn cadw torri i mewn i’r eglwys ac mae Myfanwy, y ficer, yn mynd i’r eglwys i weld beth sy’n digwydd ’na. Mae delw Iesu Grist yn ei bwrw hi ar ei phen ac mae’n hi’n cael cnoc gwael ar ei phen. Maen nhw’n penderfynu rhoi sgan iddi, jyst i wneud yn siwr bod hi’n hollol iach. Mae’r sgan yn dangos rhywbeth hollol wahanol, rhywbeth sydd wedi bod ’na ers blynydde o bosib, sef brain aneurism sy’n aros i’w lladd hi.

Yn y cyfamser, mae hi’n dechrau cael rhithiau, fel bach o side effect o’r cyflwr. Mae hi’n cael rhithiau o bobol a phethau sy’n cwestiynu’i ffydd hi a’i phriodas hi.

Beth am gymeriad Myfanwy? Ydych chi’n gweld eich hunan yn y cymeriad?

Fi’n gweld rhai elfennau o’n hunan yn y cymeriad. Fi’n berson eitha moesol, yn berson caredig a chariadus. Ond wy ddim yn ficer, wy ddim yn briod, wy ddim â phlant, wy ddim yn grefyddol. Wy’n cyfri’n hunan yn atheist. Ond wrth gwrs, wy wedi cael fy nghodi yn y capel, ddim yn yr eglwys. O’dd Tad-cu yn ddiacon, mam yn ddiacones. Ein cyndeidiau ni wnaeth godi’r capel. Mae ieithwedd crefydd yn dod yn naturiol iawn i fi. O’n i’n mynd i’r Ysgol Sul bob dydd Sul, felly fi’n cyffyrddus iawn yng ngwydd crefydd, er nad ydw i erbyn hyn yn credu.

Beth oedd apêl y rhan a’r cymeriad i chi?

Fel arfer, pan wyt ti’n cael clyweliadau, ti’n cael golygfeydd wedi’u hala i ti i bractiso i fynd mewn. Weithiau, ti’n cael pennod o’r ddrama hefyd. Ces i bennod, ac o’n i jyst wedi’i ddarllen e ‘cover to cover’ yn syth. O’dd e’n ‘page turner’ – o’n i jyst moyn gwybod beth sy’n digwydd nesa, ma fe mor exciting. Wrth gwrs, mae’r testun yn swmpus. Er bod lot yn digwydd i fi fel cymeriad ynddo fe, mae pawb â rhywbeth diddorol yn digwydd iddyn nhw. Sneb jyst ’na am ddim byd.

Gawsoch chi gymorth ficer go iawn, on’d do fe?

Do. Gethon ni gyd gymorth y ficer Manon Ceridwen James. Mae hi’n ficer yng ngogledd Cymru ym Mae Colwyn. Hi oedd yn helpu o ran ymchwil. O’dd Sian James, sy’n gwneud y gwisgoedd, wedi cysylltu â Manon i ofyn beth fyddai hi’n gwisgo, pryd fyddai hi’n gwisgo’r coler, beth fyddai hi’n gwisgo bob dydd, ble i archebu’r pethau hyn. O’dd e’n ddiddorol gweld y gwefannau dillad sydd ar gael ar gyfer ficeriaid. Es i lan i glywed hi’n pregethu cyn y Nadolig ac o’n i’n methu credu pa mor gyfoethog a pha mor rwydd o’dd ei phregeth hi, a faint o hwyl o’dd hi’n cael. O’dd hi’n amlwg fod y bobol yn gwrando arni’n joio bod ’na.

Dywedodd Fflur nad stori am grefydd yw hi. Fyddech chi’n cytuno?

Wrth gwrs. Stori am deulu yn ymdopi gyda crisis a sefyllfa anodd iawn yw hi. Digwydd bod taw ficer yw Myfanwy. Allai hi fod mewn unrhyw swydd arall, jyst bod hi’n fenyw brysur iawn. Ond mae’n ddiddorol pan wyt ti’n dod mewn ag elfen mor fawr â chrefydd i rywbeth fel y sgript mae Fflur wedi ysgrifennu.

Ry’ch chi wedi chwarae lot o gymeriadau, ond dyma’r tro cyntaf i chi chwarae’r prif gymeriad. Sut brofiad oedd hynny?

Mae ’di bod yn brofiad hyfryd, yn brofiad eitha heriol. Mae hi’n brif gymeriad ond mae lot o brif gymeriadau sy’n cael eu rhannu lan yn eitha cyfartal o ran y gwaith sy’n cael ei wneud. O’dd Paul Jones, y cynhyrchydd, yn credu mai’r unig ffordd fyddai cymeriad Myfanwy yn gweithio o’dd bod hi bron ym mhob golygfa. O’dd hynna’n meddwl taw dim ond un diwrnod off ges i achos o’dd rhaid i fi ddysgu llwyth o linellau. Mae’n gymaint o fraint ac o’n i’n mwynhau cael fy nannedd i mewn i gymeriad mor swmpus, mor gyflawn. Ond o’dd e’n waith caled achos ti’n ffilmio am ddeuddeg awr y dydd. Bob dydd o’n i’n edrych rownd ar y bobol o’n i’n gweithio gyda nhw a meddwl pa mor lwcus o’n i.

Ydych chi’n credu bod y profiad o berfformio ar lwyfan wedi helpu o ran paratoi ar gyfer y sgrîn?

Ydy. Fi’n cofio gweld Lauren Bacall ar raglen Michael Parkinson blynydde yn ôl yn dweud, yn y theatr ti’n dysgu dy grefft fel actor. Fi’n cytuno ’da ’ny. Wnes i flynyddoedd o theatr cyn mentro mynd i fyd y teledu. Wrth gwrs, ti’n gorfod cofio awr a hanner o sioe ar sgript. Mae’r teledu’n hollol wahanol, wrth gwrs. Mae popeth ychydig yn fwy cynnil. Mae’r teledu’n hollol wahanol achos ti’n dysgu un olygfa fach a ti’n gorfod gwneud e drosodd a drosodd, ond dwedi di byth mo’r geiriau ’ny eto. Felly fi’n siwr fod e’n defnyddio rhan wahanol o’r ymennydd.

Sut brofiad oedd gweld y cynnyrch gorffenedig ar y sgrîn?

O’dd e’n hyfryd achos gethon ni ‘screening’ yn Vue yn Gaerfyrddin. Fi wedi gweld ‘screening’ o bethau fi wedi gwneud yn y gorffennol. Sai’n gwybod beth oedd e amdano fe, ond o’dd y sinema’n llawn, a gweld ymateb pawb mor bositif, yn chwerthin, ac o’n i wir yn teimlo beth o’dd yn mynd mlaen rownd i fi. O’dd cael y ‘collective experience’ yna’n rywbeth wirioneddol hyfryd. O’dd e’n galonogol iawn, ac o’dd e wedi rhoi hwb i fi, a ffydd i fi y bydd pobol yn mwynhau nos Sul.

Oeddech chi’n hapus eich hunan gyda’r cyfan?

O’n i’n hapus iawn. Mae’r cyfarwyddwr wedi cael y gorau ma’s ohonon ni. Fi’n credu bod y cast wedi bod yn hyfryd. O’n i’n hapus gyda ’mherfformiad i. Ti’n edrych ar dy hunan a meddwl am ffyrdd eraill y gallet ti fod wedi gwneud rhai pethau. Ond mae’n rhy hwyr nawr. Ond fi’n hapus i weld y berthynas sydd rhwng y teulu ar y sgrîn.

Mae ‘Parch’ yn dechrau heno am 9 o’r gloch ar S4C.

Cyfweliad: Alun Rhys Chivers