Mae Côr Glanaethwy ymhlith y deuddeg sy’n gobeithio ennill ffeinal y gyfres deledu ‘Britain’s Got Talent’ ar ITV heno.

Y côr, dan arweiniad Cefin Roberts, oedd yr act gyntaf i gyrraedd y rownd derfynol nos Lun wedi iddyn nhw dderbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau.

Maen nhw’n cystadlu yn erbyn dawnswyr Entity Allstars, Jules O’Dwyer a Matisse y ci, dawnswyr Old Men Grooving, y consuriwr Jamie Raven, y canwr Calum Scott, dawnswyr UDI, y canwr Isaac Waddington, cantorion y Neales a’r comedïwr Danny Posthill.

Bydd un cystadleuydd ychwanegol yn cael ei ddewis gan y cyhoedd a’r llall gan y beirniaid.

Côr Glanaethwy oedd yr act gyntaf i ennill ei lle yn ffeinal y sioe dalent Britain’s Got Talent neithiwr, wedi iddyn nhw gipio mwyafrif y bleidlais gyhoeddus.

Wedi i Gôr Glanaethwy, sydd gyda’ dros 160 o aelodau, ennill ei le yn y ffeinal, bu’n rhaid i’r beirniaid ddewis un act arall i ymuno a nhw.

Dewisodd Simon Cowell, Alesha Dixon, Amanda Holden a David Walliams y grŵp dawnsio Entity Allstars i ymuno a Chôr Glanaethwy yn y rownd derfynol.

Yn dilyn perfformiad Glanaethwy, dywedodd Alesha Dixon ei bod hi wedi “syrthio mewn cariad” gyda nhw a dywedodd Amanda Holden ei bod hi’n credu y gallai’r côr ennill y gystadleuaeth.

Mae Glanaethwy yn cystadlu am y cyfle i berfformio yn sioe’r Royal Variety Performance eleni a gwobr ariannol o £250,000.