Llun wedi'r daeargryn fis diwethaf
Mae miloedd o bobol wedi ffoi o’u cartrefi yn dilyn tirlithriad ger afon yng ngogledd-orllewin Nepal.
Mae pryderon y gallai’r tirlithriad arwain at lifogydd ar hyd afon Kaligandaki yn rhanbarth Beni Bazaar, sydd ryw 125 o filltiroedd i’r gogledd-orllewin o Kathmandu.
Mae’r fyddin a’r heddlu’n asesu cyflwr yr afon ac yn rhybuddio pentrefwyr am beryglon y sefyllfa.
Mae 25 o gartrefi wedi cael eu claddu gan y tirlithriad yn Baisari ac mae lefel y dŵr wedi codi 150 metr yn uwch nag arfer.
Dydy hi ddim yn glir eto a yw unrhyw un wedi cael ei anafu.
Y tirlithriad yw’r ergyd ddiweddaraf i bobol Nepal yn dilyn y daeargrynfeydd ar Ebrill 25 a Mai 12, pan gafodd bron i 8,700 o bobol eu lladd a 16,800 eu hanafu.