Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth tri o bobol wedi i’w cyrff gael eu darganfod mewn eiddo yn Didcot yn Swydd Rydychen neithiwr.
Daeth yr heddlu o hyd i gyrff dyn, dynes a merch wedi iddyn nhw dderbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd am 8.23 neithiwr.
Mae’r heddlu’n trin eu marwolaethau fel achosion o lofruddiaeth, ond does neb wedi cael ei arestio hyd yma.
Dydy hi ddim yn glir eto sut y bu’r tri farw.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.