Mae 11 o blismyn yn Afghanistan wedi cael eu carcharu am flwyddyn am eu rhan ym marwolaeth dynes yn Kabul.

Mewn llys yn Afghanistan, dywedodd y barnwr Safiullah Mojadedi bod y plismyn yn euog o esgeuluso eu dyletswyddau. Cafodd wyth plismon arall eu rhyddhau oherwydd diffyg tystiolaeth.

Roedd y plismyn ymhlith 49 o bobl gafodd eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth y ddynes 27 oed, Farkhunda, a gafodd ei churo i farwolaeth gan griw o bobl ar 19 Mawrth yn y brifddinas. Roedd y criw wedi ei chyhuddo ar gam o losgi copi o’r Koran.

Fe wnaeth yr ymosodiad arni ennyn sioc a beirniadaeth yn Afghanistan a gwledydd eraill, gan arwain at brotestiadau yn Kabul.

Yn gynharach y mis hwn, cafodd pedwar o ddynion eu dedfrydu i farwolaeth, cafodd wyth eu dedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar ac 18 eu rhyddhau oherwydd diffyg tystiolaeth.