Y bont droed dros Afon Goch ger Llanberis Llun: Cymdeithas Eryri
Mae pont droed newydd sydd wedi’i hadeiladu ger Llanberis gan Gyngor Gwynedd yn “wastraff o arian trethdalwyr” ac yn mynd yn groes i i gyngor y Parc Cenedlaethol, yn ôl aelodau Cymdeithas Eryri.
Nid yw’r bont yn cyd-fynd a’r dirwedd o’i chwmpas, meddai’r Cadeirydd John Harold, ac mae cwynion gan gerddwyr lleol wedi dod i law’r gymdeithas sy’n ei alw’n “eliffant gwyn” ynghanol y mynyddoedd.
Ar ôl gwneud gwaith ymchwil, mae’r gymdeithas yn honni bod Cyngor Gwynedd wedi adeiladu’r bont ddur a choncrit heb ymgynghori a thrigolion ac er gwaethaf cyngor yn erbyn y datblygiad gan Barc Cenedlaethol Eryri.
Cafodd hen bont grawiau lechfaen dros Afon Goch uwchlaw Llanberis ei dinistrio mewn storm ym mis Tachwedd 2013.
Ond yn ôl y gymdeithas, mae’n anodd dychmygu unrhyw beth mwy “anaddas o ran ei chynllun a’i maint” na’r bont newydd.
Diffyg parch
“Dyma glasur o fethiant gan yr Awdurdod Lleol. Mae Gwynedd wedi methu â dangos parch at y Parc Cenedlaethol a’r bobol sy’n ei ddefnyddio, wedi methu ymgynghori’n ystyrlon ag Awdurdod y Parc, ac wedi methu â goruchwylio gwaith eu peirianwyr,” meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri John Harold.
“Gall unrhyw un sydd wedi bod yma weld nad yw pont fel hon yn addas i’r llecyn gwyllt a naturiol hwn ar ochr Moel Eilio.
“Yn y mannau tawel hyn yn y Parc Cenedlaethol, mae arnom ni angen atebion syml a rhad sydd ddim yn denu sylw, nid darnau hyll o goncrid a dur sydd wedi’u gor-saernïo.
“Ac nid dyma’r tro cyntaf y gwnaeth Awdurdod Lleol ddiystyru buddiannau Eryri. Rydym yn pryderu y gallai hyn fynd o ddrwg i waeth yn fuan.”
Ychwanegodd y Cadeirydd fod Cymdeithas Eryri yn dymuno gwybod faint o arian “sydd wedi’i wastraffu” gan Gyngor Gwynedd ar gynllunio ac adeiladu’r bont.
Ymateb Cyngor Gwynedd
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod y bont wedi costio £48,000 i’w hadeiladu.
“Nid ydym wedi derbyn unrhyw bryderon ynghylch y bont hyd nes y cyfeiriwyd ati yn ddiweddar ar wefan Cymdeithas Eryri.
“Mae’r bont, a godwyd ar gost o £48,000, yn rhan o lwybr march cyhoeddus ac fe’i hadeiladwyd yn unol â safonau cenedlaethol cydnabyddedig.”