Mae Heddlu Gogledd Cymru ar hyn o bryd yn bresennol mewn digwyddiad ym Mangor oherwydd pryder am ddiogelwch dyn sydd ar do adeilad.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle yng Nghanolfan Menai ym Mangor tua 8:25 y bore ma.

Mae trafodwyr wedi’u hyfforddi hefyd yn bresennol.