Mae prif weinidog Irac wedi gorchymyn i fyddinoedd ei wlad amddiffyn eu safloedd yn nhalaith Anbar yn erbyn Islamic State.

Daw hyn ar ôl i filwyr adael eu harfau a’u cerbydau i ddianc rhag y gwrthryfelwyr yn ninas Ramadi.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd a oes gan y llywodraeth unrhyw reolaeth o’r ddinas bellach.

Mae ymladd ffyrnig wedi bod rhwng y llywodraeth a’r gwrthryfelwyr dros y dyddiau diwethaf, ac mae gorchymyn y prif weinidog Heider al-Adadi wedi cael ei ddarlledu ar deledu’r wlad.