Caeredin - prifddinas gwlad annibynnol yn y dyfodol?
Mae arolwg newydd yn awgrymu bod mwyafrif o bobl Prydain yn credu y bydd yr Alban yn annibynnol o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Yn ôl yr arolwg ar ran y sefydliad ymchwil British Future, mae canran uwch (59%) o bobl Lloegr na’r ganran o bobl yr Alban (52%) yn credu y bydd yr Alban yn annibynnol erbyn 2025.

Mae gwahaniaeth barn amlwg yn y ddwy wlad o ran y pwerau y dylai’r Alban eu cael ar unwaith. Mae bron i dri chwarter (73%) o Albanwyr o’r farn fod angen i lywodraeth newydd Prydain drosglwyddo mwy o bwerau i’r cenhedloedd a rhanbarthau, ond mae bron i hanner pobl Lloegr (48%) yn credu na ddylid cynnig dim mwy o bwerau i’r Alban.

Er mai traean yn unig o bobl yr Alban sy’n rhagweld annibyniaeth yn digwydd o fewn y pum mlynedd nesaf, mae’r mwyafrif llethol (72%) ohonyn nhw’n credu y bydd y wlad yn annibynnol erbyn 2040.

Cafodd 3,977 o oedolion ledled Prydain eu holi rhwng 8 a 14 Mai ar gyfer yr arolwg.

Pragmataidd a graddol

Meddai Sunder Katwala, cyfarwyddwr British Future:

“Mae’n ddiddorol fod yr Alban wedi ei hollti hanner a hanner fwy neu lai ynghylch a fydd annibyniaeth yn digwydd, hyd yn oed o fewn degawd, gyda mwy o bobl yn Lloegr yn credu bod yr undeb eisoes wedi’i cholli.

“Mae hyn yn cyd-fynd â dull pragmataidd a graddol Nicola Sturgeon a’i hamharodrwydd i gynnal refferendwm cyflym.

“Gyda bron i dri chwater yr Albanwyr eisiau mwy o bwerau, gall Sturgeon deimlo’n hyderus fod consensws eang, sy’n uno’r ochrau Ie a Na, yn cefnogi setliad newydd i’r Alban.

“Mae gan David Cameron fwy o waith i’w wneud gyda’r Saeson. Mae rhai yn amau a ellir achub yr undeb, ac er mai lleiafrif sydd yn erbyn i’r Alban gael mwy o bwerau, bydd angen iddo berswadio’r rhai sydd heb benderfynu fod hyn yn teilyngu ei amser a’i ynni.

“Yn y tymor hirach, mae bron i dri chwarter yr Albanwyr yn credu y bydd y genedl yn dod yn annibynnol erbyn 2040.

“Mae hynny’n her tymor hir i’r unoliaethwyr ac yn gyfle i Nicola Sturgeon chwarae’r gêm hir – bydd hyd at draean o’r 72% hynny yn bleidleiswyr Na sydd wedi derbyn y bydd annibyniaeth yn digwydd, a’i thasg hi fydd eu hargyhoeddi nhw y bydd popeth yn iawn.”