(Llun: PA)
Mae rhieni dau o blant a gafodd eu lladd gan wenwyn carbon monocsid yn Corfu wedi cael eu cythruddo gan agwedd y cwmni gwyliau Thomas Cook at y marwolaethau.
Roedd Bobby a Christi Shepherd, o Wakefield, wedi marw o’r nwyon o foeler diffygiol yn eu gwesty ar yr ynys Roegaidd yn 2006.
Ddydd Mercher, dyfarnodd cwest reithfarn o ladd anghyfreithlon, gan ddweud bod Thomas Cook wedi methu yn eu dyletswydd i ofalu.
Roedd y cwmni wedi cael eu camarwain gan y gwesty ynghylch eu cyflenwad nwy, ond doedden nhw chwaith ddim wedi gwneud archwiliad diogelwch digonol.
Fe ddaeth i’r amlwg fod Thomas Cook wedi derbyn taliad iawndal o tua £3.5 miliwn – ond nad yw teulu’r plant ond wedi derbyn tua degfed ran o hynny.
Mewn datganiad, dywedodd Neil Shepherd a Sharon Wood, rhieni’r plant:
“Mae’r ffordd y mae Thomas Cook yn ein trin ni yn warthus.
“Dydyn ni ddim wedi cael ymddiheuriaeth am eu camwedd, dim ond cynnig cyffredinol o gydymdeimlad.
“Nid yw’n rhoi sylw i’r ffaith allweddol fod eu system reoli diogelwch wedi methu ac nid yw’n ymddiheuro am hynny. Cafodd ein iawndal ei dderbyn cyn y cwest a ddyfarnodd fod Thomas Cook wedi methu yn eu dyletswydd i gymryd gofal.”