Mae diffygion dychrynllyd mewn mesurau diogelwch ar longau tanfor Trident yn ôl un o forwyr y Llynges Frenhinol.

Mae William McNeilly yn rhybuddio y gallai trychineb yn hawdd ddigwydd.

Dywed y technegydd tanfor fod peryglon tân a gollwng dŵr ar y llong danfor Victorious y bu arni eleni, ac nad yw contractwyr sy’n gweithio ar y llongau tanfor yn Faslane yn cael eu gwirio’n drylwyr.

Gan gadarnhau bod y Llynges Frenhinol yn ymchwilio i’r honiadau, dywedodd  llefarydd ar eu rhan fod William McNeilly ar goll ar hyn o bryd, a’u bod yn chwilio amdano.

“Mae’r Llynges Frenhinol yn cymryd diogelwch niwcliar yn hynod o ddifrifol, ac rydym yn ymchwilio i’r ffordd y cafodd y ddogfen ei chyhoeddi heb ganiatâd, a hefyd ei chynnwys,” meddai.

Canmol safiad

Mae Peter Burt o’r mudiad Gwasanaeth Gwybodaeth Niwclear wedi canmol safiad y morwr tanfor.

“Mae William McNeilly yn ddyn ifanc dewr sydd wedi gwneud cymwynas nid yn unig i’w gydweithwyr yn y gwasanaeth llongau tanfor, ond i’r genedl gyfan trwy ddinoethi’r peryglon sy’n wynebu llongwyr tanfor yn sgil torri costau, prinder staff a rheolaeth lac,” meddai..

“Mae rhaglen niwclear y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithredu i safonau diogelwch is na’r sector niwclear sifil oherwydd nad yw rheoleiddwyr annibynnol yn cael hawl i archwilio ei weithgareddau, ac oherwydd bod llawer yn cael ei guddio o dan yr ymhoniad o ddiogelwch.

“Rhaid i’r Prif Weinidog orchymyn diwygio mesurau diogelwch niwclear milwrol ar unwaith.”