Wrth i’r dadlau barhau am arweinyddiaeth Nigel Farage, mae dirprwy gadeirydd Ukip ac awdur ei maniffesto yn pwyso ar i’r blaid feddiannu’r ‘tir canol, tosturiol’.

“Os edrychwch chi ar y maniffesto, dw i’n meddwl ei fod yn dosturiol iawn, yn gymedrol iawn ac yn gytbwys,” meddai Suzanne Evans.

“Ac fe ddywedodd Nigel, chwarae teg iddo, mae hwn oedd y maniffesto gorau a sgrifennwyd erioed.

“Dyna, dw i’n meddwl, ydi lle mae arno eisiau mynd â’r blaid a lle mae angen i’r blaid fynd.”

Mae’n honni mai ffrae yngylch ymgynghorwyr sydd o fewn Ukip yn hytrach nag ynghylch Nigel Farage ei hun.

Gwyliau

Dywed Suzanne Evans y dylai Nigel Farage gymryd gwyliau – ond nid ymddiswyddo.

Hyn yw galwad unig Aelod Seneddol Ukip, Douglas Carswell, hefyd, sy’n gwadu bod arno eisiau bod yn arweinydd ei hun.

Mae’n feirniadol, fodd bynnag, o’r math o iaith yr oedd Ukip yn ei defnyddio yn ystod yr ymgyrch.

“Efallai fod rhywfaint o’r iaith gref y gwnaethon ni ei defnyddio yn golygu bod rhai o’r bobl yn llai tueddol i bleidleisio i Ukip pan ddaeth yr etholiad,” meddai.

“Ein nod yw cael y wlad hon allan o’r Undeb Ewropeaidd ac mae angen inni fod yn ofalus nad ydym yn colli sylw ar hynny.

“Rhaid canolbwyntio ar y dadleuon a pheidio â’n cael ein hunain mewn sefyllfa lle mae’n gweithredoedd yn ei gwneud yn anoddach inni gael cefnogaeth y mwyafrif angenrheidiol o bobl Prydain i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.”