Mae rhai o’r cychod pren a helpodd achub dros 338,000 o filwyr Prydain a Ffrainc yn 1940 wedi cychwyn yn ôl am Dunkirk.

Mae’r 19 o gychod, sydd wedi gadael o’r Royal Victoria Dock yn nwyrain Llundain, yn rhan o fflyd o 55 o gychod sy’n croesi’r sianel i nodi tri chwarter canrif ers y digwyddiad hanesyddol.

Oherwydd rhagolygon am dywydd gwael, mae’r cychod wedi gadael ddeuddydd yn gynnar er mwyn sicrhau diogelwch y criwiau.

Dywedodd Ian Gilbert, comodor cymdeithas y Dunkirk Little Ships, bod yr achlysur yn destun balchder mawr i bawb sy’n cymryd rhan.

“Wrth inni fynd ymhellach oddi wrth 1940, y llongau bach yw’r unig beth fydd ar ôl o Operation Dynamo [yr enw a roddwyd i’r cyrch achub].

“Mae’r llongau bach yn cynrychioli’r ymadrodd ‘the Dunkirk spirit’ ac ychydig iawn o gyn-filwyr sydd bellach ar ôl i allu dweud y stori, ond mae’r llongau’n helpu gyda hynny.”

Mae’r llongau tua 80 oed ar gyfartaledd, ac mae’r daith yn cael ei gwneud gan gymdeithas y Dunkirk Little Ships ynddyn nhw bob pum mlynedd.