Fideo Andy Burnham yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth (YouTube)
Mae un o’r ymgeiswyr amlyca’ am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi cydnabod bod “achos” i ystyried rhoi annibyniaeth i’r blaid yn yr Alban.

Fe ddywedodd Andy Burnham y byddai’n edrych ar y syniad wrth i rai aelodau  yn yr Alban alw am yr hawl i weithredu ar wahân i’r blaid yn Llundain.

Fe allai hynny gael effaith ar y Blaid Lafur yng Nghymru hefyd.

Newidiadau

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ddoe, fe ddywedodd arweinydd Plaid Lafur yr Alban, Jim Murphy, y byddai’n cyflwyno ffeil o awgrymiadau am newid.

Ar raglen deledu Andrew Marr heddiw, fe gafodd Andy Burnham ei holi am y posibilrwydd o blaid Albanaidd ar wahân.

“Mae yna ddadl tros hynny,” meddai – roedd cyn-arweinydd y blaid Lafur yn yr Alban wedi awgrymu’i bod yn cael ei rheoli fel cangen o’r blaid yn Llundain.