Un o drenau Arriva
Roedd disgwyl i gynrychiolwyr lleol groesawu gwasnaethau trên newydd ychwanegol sydd wedi dechrau heddiw ar reilffyrdd canolbarth Cymru.

Roedd y daith newydd gynta’ ar amserlen Lein y Cambria i lawr i gychwyn o Aberystwyth am yr Amwythig am 10.30 y bore yma – rhan o becyn o deithiau ychwanegol sydd wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd y gwasanaethau – ac ychwanegiadau ar wasanaethau lein Calon Cymru – yn creu cyfanswm o 20 o swyddi newydd.

Oriau brig

Fe fydd pedwar gwasanaeth ychwanegol ar oriau brig bob wythnos rhwng Aberystwyth a’r Amwythig  er mwyn helpu pobol i fynd a dod ar gyfer gwaith.

Yn ôl trenau Arriva sy’n cynnal y gwasanaeth,  fe fydd pobol yn Aberystwyth, Machynlleth a’r Trallwng yn rhoi croeso swyddogol i un o’r gwasanaethau newydd.

Mae’r gwasanaethau’n ffrwyth blynyddoedd o ymgyrchu gan gynrychiolwyr lleol.