Dominic Grieve
Fe fyddai’n anodd i’r Deyrnas Unedig droi cefn ar y Ddeddf Hawliau Dynol, heb gydsyniad y Cynulliad yng Nghymru, yn ôl cyn-Dwrnai Cyffredinol Torïaidd.

Roedd y Ddeddf wedi ei gwreiddio yn y trefniadau datganoli ac fe fyddai anawsterau o’i dileu ar lefel Brydeinig yn groes i ddymuniad llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, meddai Dominic Grieve.

Mae’r AS wedi defnyddio cyfweliad ar deledu Sky i rybuddio llywodraeth David Cameron i ystyried yn hir cyn penderfynu dileu’r Ddeddf.

‘Gwneud drwg i enw da’

Fe fyddai ei dileu yn gwneud drwg i enw da gwledydd Prydain, meddai, ac yn creu problemau yn y berthynas gyda Chyngor Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd, sy’n mynnu bod rhaid i aelodau gadw at y Confensiwn ar Hawliau Dynol, sy’n sail i’r Ddeddf.

Doedd hi ddim yn glir be fyddai pwynt unrhyw newid, meddai’r dyn a oedd yn Dwrnai Cyffredinol am bedair blynedd yn ystod y llywodraeth ddiwetha’.

Fe rybuddiodd na fyddai newid ddim yn cael llawer o effaith o ran statws y Llys Goruchaf na hyd yn oed o ran anfon ceiswyr lloches yn ôl o wledydd Prydain.