John Cruddas (ail o'r chwith) a rhai o'i weithwyr etholiad (o'i wefan)
Mae colli’r Etholiad Cyffredinol wedi arwain at un o’r argyfyngau gwaetha’ yn hanes y Blaid Lafur, meddai’r gŵr a sgrifennodd ei maniffesto eleni.
Fe ddywedodd yr AS John Cruddas bod angen i Lafur feddwl eto ynglŷn â’i phwrpas – “ar gyfer pwy y mae, pwy y mae’n eu cynrychioli a beth yw ei maes”.
Roedd angen i bwy bynnag sy’n cael ei ethol yn arweinydd newydd ar y blaid fod yn barod i wynebu colled 7 Mai a pheidio â’i hochr-gamu, meddai ar Radio Four.
“Ro’n i wedi dadlau mai’r golled yn 2010 oedd y golled waetha’ yn hanes y Blaid Lafur ers 1918, ac roedd y golled 10 niwrnod yn ôl yn llawer gwaeth – felly mae hyn yn ddwfn,” meddai.
Ras yr arweinyddiaeth
Ar hyn o bryd, mae pedwar ymgeisydd o’r fainc flaen Lafur yn ras yr arweinyddiaeth – Andy Burnham, Yvette Cooper, Liz Kendall a Mary Creagh- ac mae disgwyl i bumed, Tristram Hunt, gynnig ei enw hefyd.
Mae Andy Burnham heddiw wedi ceisio’i bortreadu ei hun yn arweinydd ar gyfer newid, gan ddadlau bod eisiau refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd o fewn blwyddyn.