Ffoaduriaid o blith y Rohingya (Trwydded Agored y Llywodraeth)
Mae Burma’n gwrthod derbyn y cyfrifoldeb am y miloedd o Foslemiaid sydd wedi dianc o’r wlad ac sydd mewn peryg o farw mewn cychod ar y môr.

Maen nhw ymhlith tua 120,000 o Foslemiaid Rohingya sydd wedi dianc o Burma oherwydd erlid. Ond fydd y wlad ddim yn fodlon cymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol ar broblemau ffoaduriaid yn Ne Asia os bydd enw’r Rohingyaid yn cael ei grybwyll.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae miloedd o ffoaduriaid mewn peryg o far war gychod sydd wedi eu galw yn “eirch ar y dŵr”.

Argyfwng

Mae argyfwng ffoaduriaid yn yr ardal wedi cynyddu’n gyflym ers dechrau’r mis pan benderfynodd awdurdodau Gwlad Thai wasgu ar fasnachwyr pobol.

Mae hi a Malaysia ac Indonesia wedi bod yn gwrthod derbyn rhagor o ffoaduriaid, gan wthio’r cychod yn ôl allan i’r môr – yr unig gymorth y maen nhw’n ei gynnig wedyn yw rhoi bwyd a dŵr ar eu byrddau.

Y masnachwyr sydd ar fai, meddai Burma, sy’n gwrthod cydnabod bodolaeth y Rohingyaid ac sy’n bygwth peidio â mynd i’r gynhadledd o 15 gwlad ddiwedd y mis.

Bangladesh hefyd

Y gred yw bod llawer o’r Rohingyaid yn ceisio cyrraedd Malaysia, sy’n wlad Foslemaidd.

Mae llawer o’r ffoaduriaid hefyd yn dod o Bangladesh, gan ddianc i chwilio am well amodau byw.