Fe fydd yr SNP yn ymgyrchu tros hawl Cymru i gael fito ar adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai arweinydd y blaid yn San Steffan.

Fe fydd plaid genedlaethol yr Alban yn fodlon bod yn wrthblaid ar ran holl wledydd Prydain, meddai Angus Robertson.

Fe fydd hynny’n cynnwys ymgyrchu tros sicrhau na fydd y Deyrnas Unedig yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad Cymru a phob un o’r tair gwlad arall.

“Mae gan yr SNP fandad cry’ i wrthwynebu polisïau cyni, i gynnig buddsoddi mewn creu swyddi, i ddadlau yn erbyn toriadau budd-dal i bobol anabl a mynnu na all y DU adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb y pedair rhan,” meddai Angus Robertson.

Llafur – ‘dim dewis gwahanol’

Roedd arweinydd seneddol y 56 o ASau SNP yn mynnu na allai Llafur fod yn wrthblaid go iawn a hithau ynghanol brwydr am yr arweinyddiaeth.

Ond roedd y pwynt yn ddyfnach na hynny, meddai, gan nad oedd Llafur yn cynnig dewis arall, gwahanol i’r Ceidwadwyr.

Yr SNP bellach yw trydedd plaid fwya’ Tŷ’r Cyffredin, gyda phob un ond tair o’r seddi yn yr Alban.

‘Da i’r DU’

‘Yn ôl Angus Robertson, fe fydden nhw’n ymgyrchu hefyd i rwystro’r Ceidwadwyr rhag dileu’r Ddeddf Hawliau Dynol.

“Bydd gwrthwynebiad effeithiol i’r Torïaid gan yr SNP yn bendant yn dda i’r Alban,” meddai, “ond bydd arwain y dewis arall blaengar yma hefyd o fudd i bobol trwy’r Deyrnas Unedig.”