Rhodri Morgan
Mae cyn Brif Weinidog Cymru wedi condemnio ymgyrch etholiad y Blaid Lafur am adael iddyn nhw’u hunain gael eu portreadu yn ymgyrchu am neb ond yr elfennau tlota’ mewn cymdeithas.

Yn ôl Rhodri Morgan, mae ar Gymru angen rhagor o swyddi uwch ac mae angen i Lafur ddysgu sut i apelio atyn nhw.

Mae’r sylwadau wedi’u gwneud mewn cyfweliad sy’n cael ei ddarlledu ar raglen BBC Wales, Wales Politics Sunday heddiw.

‘Ystumio’

Roedd hanes diwydiannol Cymru wedi arwain at economi oedd wedi ei hystumio, meddai cyn Aelod Cynulliad a Senedd Gorllewin Caerdydd.

Ond tra bod angen swyddi cyffredin i gymryd lle’r rhai oedd wedi eu colli mewn dur a glo, roedd angen swyddi rheoli a swyddi gyda sgiliau hefyd.

Yn ystod ymgyrch yr etholiad, meddai, roedd Llafur wedi cael ei gweld yn ymgyrchu tros y carfannau tlota’ a neb arall – pobol sy’n defnyddio banciau bwyd ac yn dioddef oherwydd y dreth ar stafelleodd gwely.