Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn chwilio am wraig a aeth ar goll fore ddoe.

Maen nhw wedi cyhoeddi disgrifiad ar eu gwasanaeth trydar o Carol Bullimore, 69 oed, o Fae Penrhyn ger Llandudno.

Maen nhw’n dweud bod y wraig 69 oed yn gorfforol iach ac yn gerddwraig dda.

Mae hi tua 5’8” o daldra a’i gwallt yn britho.

Mae’n bosib ei bod yn gwisgo sbectol ac roedd ganddi siaced borffor led-dywyll, jîns a bag llaw tywyll.