Rhan o bentre Clydach heddiw (B Jenks CCA 3.0)
Fe fydd Prif Weinidog Cymru ymhlith tyrfa’n cofio’r trychineb mawr ola’ mewn pwll glo yn Ne Cymru.
Mae disgwyl i Carwyn Jones gymryd rhan yn y seremoni ger hen lofa’r Cambrian yng Nghwm Clydach yn y Rhondda, lle cafodd 33 o ddynion eu lladd yn y ddamwain, 17 Mai 1965.
Yn ôl pobol leol, mae’n bosib mai dyma fydd y digwyddiad ola’ i gofio’r trychineb a ddigwyddodd ychydig cyn un y prynhawn ar y diwrnod hwnnw.
Ymchwiliad
Fe gafodd dynion rhwng 24 a 56 oed eu lladd wrth i nam trydan achosi ffrwydrad nwy. Oherwydd gwaith cynnal a chadw, roedd mwy nag arfer o ddynion yn y rhan o’r pwll lle bu’r ffrwydrad.
Fe benderfynodd ymchwiliad fod y ddamwain wedi dangos enghreifftiau o “arferion difrifol o wael” ac fe wnaeth sawl argymhelliad ynglŷn â gwella offer.
Roedd un dyn hefyd wedi ei anafu’n ddifrifol wael.
Cefndir
Ar ôl y ddamwain yn y Cambrian, fuodd yna ddim damweiniau mawr mewn pyllau yng Nghymru ond, ymhen llai na blwyddyn, cafodd 144 o blant a phobol eu lladd pan lithrodd tomen lo yn Aberfan.
O fewn dwy flynedd, roedd y pwll wedi cau.