Mae cannoedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd prynhawn ma i ymgyrchu yn erbyn toriadau llymder.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu gan y mudiad Cynulliad Pobl Caerdydd. Bu aelodau’r mudiad yn annerch y dorf ger Llyfrgell Caerdydd am 1 y prynhawn ma.
Dyma’r ail waith i’r mudiad drefnu gorymdaith yn y brifddinas – cafodd y cyntaf ei chynnal wythnos yn ôl ar ôl i’r Ceidwadwyr ddod i rym unwaith eto yn yr etholiad cyffredinol.
Roedd y trefnwyr yn awgrymu bod pum gwaith yn fwy o bobl wedi ymuno yn yr orymdaith y tro hwn, o’i gymharu â’r 200 o bobl oedd wedi cymryd rhan wythnos diwethaf.
Roedd y gantores Charlotte Church yn un o’r rhai fu’n cymryd rhan yn yr orymdaith unwaith eto heddiw.
Mae’r mudiad bellach yn bwriadu cynnal protest y tu allan i Lyfrgell y Rhath nos Fercher am 6yh cyn ymuno a mudiadau eraill o bob rhan o’r DU tu allan i Fanc Lloegr yn Llundain ar 20 Mehefin.
Ymhlith y rhai fu’n annerch y dorf roedd Sue Leader o undeb Unite a Dominic MacAskill, o Unsain gyda’r ddau yn annerch pobl i sefyll yn gadarn yn erbyn toriadau i wasanaethau cyhoeddus.