Mae milwyr yr Unol Daleithiau wedi cynnal cyrch yn nwyrain Syria dros nos gan ladd aelod blaenllaw o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), arestio ei wraig ac achub dynes Yazidi oedd wedi’i chaethiwo, meddai’r Pentagon.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ash Carter, nad oedd unrhyw aelod o luoedd yr Unol Daleithiau wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn y cyrch.

Mae hefyd wedi cyhoeddi mai Abu Sayyaf yw enw’r comander o IS a gafodd ei ladd.

Mae clymblaid sy’n cael ei arwain gan yr UD wedi targedu safleoedd IS yn Syria mewn ymgyrchoedd o’r awyr ers y llynedd ond dyma’r eildro yn unig i filwyr gynnal cyrch ar y tir.

Yn y cyfamser mae adroddiadau ar gyfryngau Syria yn dweud bod lluoedd llywodraeth Syria wedi lladd o leiaf 40 o ymladdwyr IS, gan gynnwys uwch gomander oedd yn gyfrifol am feysydd olew, yn ystod ymosodiad ar faes olew fwya’r wlad oedd yn nwylo IS.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pam fod Syria a’r UD yn hawlio cyfrifoldeb am gyrchoedd tebyg ym maes olew Omar. Mae’r UD wedi dweud nad yw’n cydweithredu gyda llywodraeth yr  Arlywydd Bashar Assad yn y frwydr yn erbyn eithafwyr IS. Ond mae’n dweud eu bod yn rhoi gwybod i lywodraeth Syria os ydyn nhw’n bwriadu cynnal cyrchoedd o fewn ei ffiniau.

Mae IS wedi cymryd rheolaeth o rannau helaeth o ogledd a dwyrain Syria yn ogystal â gogledd a gorllewin Irac. Mae’r rhan fwyaf o feysydd olew Syria yn nwylo IS, sef un o brif ffynonellau ariannol y grŵp eithafol.