Jim Murphy, arweinydd Llafur yn yr Alban, ar ei ffordd i gyfarfod yn Glasgow heddiw
Mae Jim Murphy wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban fis nesaf, gyda’r gobaith o gael olynydd iddo erbyn yr haf, meddai heddiw.

Roedd cyn Aelod Seneddol Dwyrain Renfrewshire  wedi bod dan bwysau gan ASau ac undebau i ymddiswyddo yn dilyn canlyniadau trychinebus ei blaid yn yr etholiad cyffredinol.

Fe gollodd  y Blaid Lafur 40 sedd i’r SNP gan adael dim ond un AS Llafur yn yr Alban.

Daeth ei gyhoeddiad yn dilyn cyfarfod o weithgor y blaid yn Glasgow heddiw. Fe ymddiswyddodd er iddo ennill pleidlais o ddiffyg hyder o 17 i 14.

Dywedodd Jim Murphy y byddai rhwyg yn parhau o fewn y blaid oni bai ei fod yn ymddiswyddo ond ei fod yn bwriadu defnyddio ei fis olaf fel arweinydd i adael y blaid mewn safle cryfach ar gyfer ei olynydd. Dywedodd y bydd yn llunio adroddiad yn cynnig diwygiadau fis nesaf.

‘Ymddygiad dinistriol’

Ychwanegodd nad “problem y Blaid Lafur oedd ei chysylltiad gydag undebau llafur, neu hyd yn oed gydag aelodau Unite,” ond “ymddygiad dinistriol”  arweinydd yr undeb,  Len McCluskey.

“Ni allwn ganiatáu i’n harweinwyr, boed yn yr Alban neu yn y DU, gael eu dewis neu eu disodli oherwydd cwynion un dyn blaenllaw…. Ni ddylai arweinydd nesaf y Blaid Lafur yn y DU gael ei ddewis gan Len McCluskey.”

Ychwanegodd nad yw’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Senedd yr Alban gan ddweud: “Mae’n bryd i mi wneud rhywbeth arall.”

Cafodd Jim Murphy ei benodi’n arweinydd ym mis Rhagfyr y llynedd ar ôl i’r cyn arweinydd Johann Lamont ymddiswyddo.

Yn dilyn y newyddion dywedodd Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon ar Twitter, ei bod yn “dymuno’r gorau i Jim Murphy ar gyfer y dyfodol. Nid yw arweinyddiaeth yn hawdd ac mae’n haeddu parch am sefyll i fyny am yr hyn mae’n ei gredu.”