Yr Arglwydd Janner
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wedi dweud y bydd yn adolygu ei benderfyniad i beidio cyhuddo’r Arglwydd Janner ynglŷn â honiadau hanesyddol o gam-drin plant.

Cafodd yr Arglwydd Janner, o’r Blaid Lafur, ei gyhuddo o gyfres o honiadau hanesyddol yn ymwneud a cham-drin plant yn y 1960au, 70au a’r 80au ond fe benderfynodd  y CPS nad oedd yn ddigon iach i sefyll ei brawf am ei fod yn dioddef o ddementia.

Fe fydd y penderfyniad gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Alison Saunders i beidio dwyn achos yn erbyn yr Arglwydd Janner, 86, bellach yn cael ei adolygu gan fargyfreithiwr annibynnol o dan gynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad, meddai’r CPS.

Mae pwysau wedi bod i gynnal adolygiad o’r penderfyniad gan gyfreithwyr sy’n cynrychioli dioddefwyr honedig.

Roedd yr Arglwydd Janner yn Aelod Seneddol am 27 mlynedd.

Mae’r Ustus Lowell Goddard, y barnwr sy’n cynnal ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, hefyd wedi dweud y bydd hi’n ymchwilio i honiadau yn yr erbyn yr Arglwydd Janner ac y gallai hi alw arno i roi tystiolaeth.