Ben Needham
Dywed Heddlu De Swydd Efrog eu bod nhw wedi derbyn nifer o alwadau ffôn yn cynnig gwybodaeth ar ôl apel o’r newydd ar deledu Gwlad Groeg am Ben Needham a ddiflannodd 24 mlynedd yn ôl tra ar wyliau yno.
Mae ditectifs nawr yn pori drwy’r wybodaeth newydd, gan gynnwys manylion gan rai sy’n honni eu bod wedi ei weld.
Fe ddiflannodd Ben Needham, o Sheffield, ar 24 Gorffennaf 1991 ar ol teithio i ynys Kos gyda’i fam Kerry Needham a’i nain a’i daid.
Dros y blynyddoedd mae nifer o bobl yn honni eu bod wedi ei weld a nifer o ddamcaniaethau wedi bod ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd i Ben, a fyddai yn 25 oed erbyn hyn.
Roedd Kerry Needham, nain Ben, Christine Needham, a’i chwaer Leighanna wedi cymryd rhan mewn rhaglen deledu tair awr nos Wener.
Wrth siarad ar y rhaglen neithiwr roedd Kerry Needham wedi erfyn “am ddod a’r boen mae fy nheulu yn ei ddioddef i ben. Rwy’n gwybod ei fod allan yno’n rhywle.
“Plîs ffoniwch yr heddlu i ddod a diwedd i hyn.”
Mae’r rhaglen, sy’n cyfieithu i Golau ar Ddiwedd y Twnnel, yn cael ei ddarlledu i 50% o wylwyr Gwlad Groeg, meddai’r heddlu, ac yn cynnwys gwybodaeth am bobl sydd ar goll.
Ym mis Ionawr, cafodd Heddlu De Swydd Efrog £700,000 gan y Swyddfa Gartref i helpu’r awdurdodau yng Ngwlad Groeg i barhau a’u hymchwiliad i ddiflaniad Ben.